Wednesday, October 24, 2007

Third sector contribution to tackling climate change and renewable energy

Third Sector tackling climate change and renewable energy survey / Arolwg Trydydd Sector - newid hinsawdd ac ynni adnewyddiadwy

Please scroll down for message in English


Cyfraniad y trydydd sector at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ynni adnewyddadwy

Yn ystod un o’r cyfarfodydd a gynhelir ddwywaith y flwyddyn rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynrychiolwyr y sector ym mis Gorffennaf 2007, gofynnodd Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, i’r sector ystyried blaenoriaethau allweddol yn ei phortffolio - newid yn yr hinsawdd ac ynni adnewyddadwy - a’r hyn y gallai’r sector ei wneud yn y meysydd hyn.

Yn ymateb i gais y Gweinidog, bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cydlynu’r gwaith hwn ar y cyd â grŵp cynllunio’r cyfarfodydd Gweinidogol, Cyswllt Amgylchedd Cymru, Cynnal Cymru, a’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy. Rydym eisiau gwybod beth mae’r sector yn ei wneud ar hyn o bryd yn y meysydd hyn a beth arall y carai’r sector ei wneud. Cyflwynir y wybodaeth hon gerbron y cyfarfod nesaf gyda’r Gweinidog ym mis Tachwedd 2007, gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth a dylanwadu ar bolisïau ac adnoddau Llywodraeth y Cynulliad yn y dyfodol.

Os hoffech gymryd rhan, cliciwch ar
http://www.surveymonkey.com/s.aspx?sm=hyLWJUaWRnNyCdgA5N6GDQ_3d_3d a llenwi’r arolwg erbyn 5.00 p.m. dydd Gwener 12 Hydref 2007. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith hwn, cysylltwch â Gwenan Davies, Swyddog Polisi WCVA, ar 01686 611050 neu gdavies@wcva.org.uk

At one of the twice yearly meetings between Welsh Assembly Government Ministers and sector representatives in July 2007, Jane Davidson AM, the Minister for Environment, Sustainability and Housing, asked the sector to consider key priorities within her portfolio - climate change and renewable energy - and what the sector could do in these areas.

In response to the Minister's request, Wales Council for Voluntary Action (WCVA) will be co-coordinating this work in conjunction with the Ministerial meeting planning group, Wales Environment Link, Cynnal Cymru-Sustain Wales, and the Sustainable Development Commission. We are interested in finding out what the sector is currently doing in these areas and what more the sector would like to do. This information will be taken to the next meeting with the Minister in November 2007, with the aim of informing and influencing future Assembly Government policy and resourcing.

If you would like to participate, please click on
http://www.surveymonkey.com/s.aspx?sm=hyLWJUaWRnNyCdgA5N6GDQ_3d_3d and complete the survey by 5.00 p.m. Friday 12 October 2007. If you have any queries about this work, please contact Gwenan Davies, WCVA Policy Officer on 01686 611050 or gdavies@wcva.org.uk


Gerald Lewis Mid Wales Administrator / Gweinyddwr Canolbarth Cymru Tel: 01686 611050 Fax: 01686 627863 e-mail: glewis@wcva.org.uk www.wcva.org.uk
Wales Council for Voluntary Action
Europe Direct
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

No comments: